Bandiau Cymraeg yng ngŵyl rithiol Vienna

Roedd cyfle i weld dau fand Cymraeg yn perfformio fel rhan o fersiwn rhithiol o ŵyl arddangos (showcase) cerddorol ‘Waves Vienna’ dros y penwythnos.

Mae Waves Vienna yn ŵyl flynyddol yn Awstria sy’n cynnig llwyfan yn bennaf i artistiaid amgen ac indie.

Eleni roedd partneriaeth rhwng yr digwyddiad a’r ŵyl arddangos Gymreig FOCUS Wales yn Wrecsam ac roedd 9Bach a HMS Morris wedi eu dewis i berfformio.

Roedd modd cofrestru i weld perfformiad HMS Morris ar wefan Waves Vienna nos Iau, ac yna 9Bach nos Wener.