Mae Betsan wedi rhyddhau ei thrydedd sengl ers dydd Gwener diwethaf, 2 Hydref.
‘Ti Werth y Byd’ ydy enw’r sengl newydd sy’n dilyn y traciau ‘Eleri’ a ‘Cofia’ sydd wedi eu rhyddhau ganddi yn y gorffennol.
Betsan ydy Betsan Haf Evans sy’n gantores brofiadol iawn. Mae wedi bod yn aelod o sawl band dros y blynyddoedd ers dechrau ei gyrfa gerddorol gyda’r band Alcatraz. Ers hynny mae wedi bod yn aelod o’r Panics, Dan Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis.
Mae Betsan hefyd yn brif ffotograffydd cylchgrawn Y Selar, a Gwobrau’r Selar, ers sawl bwlyddyn.
Mae hefyd wedi bod yn brysur gyda’i grŵp newydd yn ystod y cyfnod clo, sef Cwtsh sydd hefyd yn cynnwys Alys Llywelyn-Hughes a Siôn Lewis.
Rhoi’r byd yn ei le
Daeth Betsan i’r amlwg fel artist unigol gyntaf yn 2016 wrth iddi gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r sengl ‘Eleri’ a ryddhawyd fel sengl yn ddiweddarach.
Rhyddhaodd ein hail sengl, ‘Cofia’, ar label Recordiau Sienco yn Rhagfyr 2018, ac mae’n rhyddhau’r sengl newydd ar yr un label.
Mae ‘Ti Werth y Byd’ yn arddangos llais cryf Betsan wrth iddi ganu am fod yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n chwilio am y ffics nesaf o dopamine trwy’r sgrin, ond mewn gwirionedd, ar ben mynydd yn yr awyr iach yn rhoi’r byd yn ei le ydy’r lle mae’r dopamine go iawn.
Yn y gân mae Betsan yn cyfleu teimladau sydd mor gyffredin mewn cymdeithas heddiw – yr angen i deimlo boddhad trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r llinell “wedi blino ar y becso, pwy sy’n clico ar y lico?” yn crisialu acen gyfoethog de-orllewin Cymru Betsan, sy’n llawn hwyl a phersonoliaeth.
Mae teimlad gwahanol i’r sengl yma o’i gymharu â’i dwy flaenorol, ond unwaith eto mae’n esiampl arbennig arall o ddawn Betsan i ysgrifennu caneuon bachog, uniongyrchol.
Mae ‘Ti Werth y Byd’ yn romp roc a rôl retro, fydd heb os yn gwneud i chi fod eisiau dawnsio, ac efallai hyd yn oed adael y sgrin a mynd i ddringo mynydd.