Un cerddor sydd heb fod yn segur o bell ffordd yn ystod y cloi mawr ydy’r artist electronig ardderchog, Plyci.
Mae Plyci eisoes wedi rhyddhau llond trol o gynnyrch newydd dros gyfnod y cloi, a nawr mae’n barod i ryddhau ei sengl ddiweddaraf ar Bandcamp.
‘Cerddi Danedd’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan fory, a dyma’r trac cyntaf i ymddangos o’r albwm newydd sydd ar y gweill ganddo.
Hon ydy’r bedwaredd sengl iddo ryddhau yn ystod cyfnod y cloi, gyda’r ddiweddaraf ‘EDOACID-19’, allan ganol mis Mehefin. Cyn hynny, fe ryddhaodd ei EP ‘Ogof’, ar 11 Mai.
Cynhyrchiol
Plyci ydy prosiect y cerddor Gerallt Ruggiero, a ddaw’n wreiddiol o‘r Rhyl, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nottingham.
A gyda’r albwm newydd ar y gweill, mae’n amlwg ei fod mewn hwyliau cynhyrchiol iawn, ac mewn gwirionedd roedd hynny i’w weld cyn y cloi mawr diweddar – fe ryddhaodd ddau EP yn ystod 2019 hefyd sef ‘Summit’ ar 24 Rhagfyr, ‘Tannau’ a ryddhawyd ym mis Mai 2019.
Rhyddhaodd Plyci ei albwm diwethaf, ‘Sŵn’ yn 2018 ac er nad oes ganddo union ddyddiad mewn golwg ar gyfer yr albwm diweddaraf eto, mae ymddangosiad y sengl newydd yn awgrym y bydd yn cadw at ei addewid o ryddhau yn ystod 2020.
Bydd modd clywed a lawr lwytho’r sengl newydd ar safle Bandcamp Plyci.
Dyma fideo o Gerallt yn perfformio’r trac newydd yn fyw – neis iawn: