Blas o drydydd albwm Mr

Mae Mr – sef prosiect diweddaraf cyn aelod Y Cyrff, Catatonia a’r Ffyrc, Mark Roberts – wedi gollwng trac cyntaf ei albwm newydd ar-lein.

‘Bregus’ ydy enw’r trac sydd wedi ymddangos ar safle Soundcloud Mr, ac yn ôl y cerddor bydd y trac ar ei albwm newydd, sef trydydd albwm Mr.

Does dim manylion am union ddyddiad rhyddhau’r albwm newydd eto…ond gan ystyried bod Mr wedi rhyddhau ei ddau albwm diwethaf ar benwythnos olaf mis Hydref 2018 a Hydref 2019…ein tyb ni ydy y bydd yn dilyn yr un drefn gyda’r albwm newydd.

Mae Mark wedi datgely mai ‘Feiral’ fydd enw’r record hir newydd.

Dyma  ‘Bregus’