Breichiau Hir – sengl i lenwi bwlch albwm

Bydd y grŵp roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, yn rhyddhau eu sengl newydd ddydd Gwener yma, 24 Gorffennaf.

Bwriad gwreiddiol y grŵp oedd rhyddhau eu halbwm llawn cyntaf dros yr haf eleni, ond mae pandemig Covid-19 wedi golygu gorfod oedi’r cynlluniau hynny am y tro. Roedden nhw wedi bod wrthi’n recordio ers diwedd 2019, gan gwblhau’r gwaith ddiwedd mis Mawrth, jyst cyn cyfnod y cloi mawr.

Yn hytrach na hynny, mae’r grŵp profiadol wedi penderfynu rhyddhau trac sydd wedi ei recordio ers peth amser ganddynt.

Angerdd a’i chynddaredd erchyll

‘Preseb o Ias’ ydy enw’r sengl, ac mae’n cael ei rhyddhau gan label Recordiau Libertino.

“Y cynllun oedd i ryddhau llond llaw o senglau cyn rhyddhau’r albwm cyfan yn yr haf” eglura Steffan Dafydd, prif ganwr enigmatig y grŵp.

“Ar ôl trafod popeth, ni wedi penderfynu gohirio ryddhau’r albwm. Ni’n gutted, ond roedd y syniad o ryddhau’r albwm heb allu chwarae’r caneuon yn fyw, i roi bywyd iddyn nhw, ddim yn apelio.”

Yn hytrach na hynny, mae’r grŵp wedi penderfynu rhyddhau trac a recordiwyd ganddynt yn 2018, ond nad oedd cyfle i’w rhyddhau fel sengl ar y pryd. Mae’r grŵp yn falch iawn o ‘Preseb o Ias’ yn ôl Steffan.

“Mae’r gân am wasgu’r bywyd a chariad allan o bopeth tan iddo gael ei ddifetha a’r unig beth sydd ar ôl yw cragen. Y thema mwya hyfryd ni erioed ‘di dewis, dwi’n siŵr” meddai’r canwr a’i dafod yn ei foch.

“Mae’r gân yn rhoi darlun o rywun yn mynd trwy fywyd mewn turmoil, yn achosi anhrefn a chaos llwyr. Teimlodd y gân yn gryf, yn manic ac yn ysgytwol o’r eiliad dechreuon ni weithio arni – felly dyma o le ddaeth y themâu. Ry’n ni’n dwlu ar deimlad trydanol y gân a’i angerdd a’i chynddaredd erchyll.”

“Mae’n dechrau gyda outburst o gitars creulon a threisgar a chanu-gweiddi a rhywle yn y canol, mae’n cymryd gafael ac yn tynnu dy anadl cyn iddo adeiladu’r egni crac nôl fyny tuag at y diwedd.”

Gwaith celf yn gweddu’r trac

Cerddor o Gaerdydd, John Rowley, sy’n gyfrifol am waith celf y sengl.

Mae Rowley yn adnabyddus am osod portreadau o’i hun yn gwisgo masgiau amrywiol ar ei gyfrif Instagram.

Mae’n creu’r masgiau’n ddyddiol o ddeunydd mae’n darganfod yn ei dŷ neu ardd, cyn cymryd hunlun bron yn yr un lle bob tro.

Mae gwaith celf yr albwm yn dangos llun ohono gyda nifer o hoelion wedi eu gosod ar ei wyneb gyda thâp lliwiau coch a gwyn.

Mae’r grŵp yn hoff iawn o waith yr artist, fel yr eglura Steff.

“Mae e ar hyn o bryd ar masg rhif 322. Ry’n ni’n caru’r prosiect a pan welon ni’r hoelion wedi’u tapio i’w wyneb roedd rhaid i ni ddefnyddio’r llun fel gwaith celf y sengl.”

‘Mae e mor disturbing a dwi’n meddwl bod e’n gweddu themâu’r gân i’r dim.”