Bwca i ryddhau albwm cyntaf

Bydd y grŵp o Ganolbarth Cymru, Bwca, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Llun nesaf, 2 Tachwedd. Mae’r albwm newydd yn rhannu enw’r grŵp ac yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Hambon.

Er gwaetha’r cyfnod clo, mae Bwca wedi parhau’n brysur yn 2020 gan ryddhau senglau, chwarae gigs rhithiol ac awyr agored, ymddangos ar raglenni teledu Heno a Noson Lawen a llawer mwy.

Y cerddor Steff Rees ydy’r prif egni tu ôl i Bwca, ac ef sydd wedi ysgrifennu holl ganeuon yr albwm.

Mae rhyddhau’r record yn nodi degawd ers i Steff symud i Aberystwyth, ac mae’r dref wedi dylanwadu’n drwm ar ei gyfansoddi. Mae’r casgliad o ganeuon yn trafod y drwg a’r da o fywyd yn yr ardal, gyda detholiad o ganeuon sy’n amrywio rhwng y dwys a’r dychanol.

Amrywiaeth arddull

Yn ogystal ag amrywio o ran themâu, mae’r albwm yn amrywio o ran arddulliau cerddorol hefyd. Ceir caneuon llawn ystyr a hynod o fachog llawn trwmped a sax fel ‘Hoffi Coffi’ a ‘Cno Dy Dafod’, roc a rôl go iawn ‘Elvis Rock’, canu protest ‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’, a phinsiaid o ganu gwlad gyda ‘Tregaron’.

Yn ymuno gyda Steff ar yr albwm mae gweddill aelodau Bwca sef Rhydian Meilir Pughe, Kristian Jones, Nick Davalan, Ffion Evans ac Iwan Hughes.

Mae Ifan Jones (Candelas) a Dilwyn Roberts-Young hefyd yn ymuno ar ambell gân.

Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r cynhyrchwyr Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni cynhyrchu Drwm.

Yr artist talentog, Lois Ilar, sy’n gyfrifol am waith celf trawiadol yr albwm newydd fydd ar gael ar CD yn ogystal ag yn ddigidol.

Dyma Bwca’n perfformio ‘Cno Dy Dafod’ yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd llynedd: