Bwca i ryddhau ‘Tregaron’

Efallai fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis Awst wedi ei gohirio, ond bydd y grŵp o’r canolbarth, Bwca, yn rhyddhau sengl sy’n brolio rhinweddau tref leiaf Ceredigion ddydd Gwener yma,  3 Ebrill.

‘Tregaron’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp hwyliog sy’n cael ei arwain gan Steff Rees o Aberystwyth, a’i label yntau, Recordiau Bwca, sy’n rhyddhau.

Perfformiwyd y gân yn ddiweddar ar raglen Noson Lawen, S4C, ac fe’i ysgrifennwyd gan Steff rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn ‘sbin randym’ yn y car i Dregaron ar ddiwrnod braf – taith a gododd ei galon fel petai’n rhyw fath o werddon i’w enaid, yn ôl y cerddor.

Roedd dyddiad rhyddhau’r trac yn amseru perffaith cyn i’r Eisteddfod ymweld â’r dref eleni, ond daeth y newyddion ddoe fod rhaid disgwyl blwyddyn arall nes i’r Brifwyl gyrraedd oherwydd argyfwng y Coronavirus.

Fydd hynny ddim yn ormod o ofid i Bwca, gan roi blwyddyn ychwanegol iddynt hyrwyddo a sefydlu’r gân fel anthem Eisteddfod y Cardis.

Albwm i ddod

Cân ganu gwlad cyfoes ei naws yw ‘Tregaron’ ac yn perfformio ar y trac mae Steff Rees (gitârs a llais), Rhydian Meilir (drymiau), Nick Davalan (gitâr fas), Kristian Jones (gitâr), Ffion Evans (llais), Dilwyn Roberts Young (organ geg) ac Iwan Hughes (offer taro).

Recordiwyd, cynhyrchwyd a mastrwyd y gân gan Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni Drwm yn Stiwdio Sain.

Lois Ilar sydd yn gyfrifol am waith celf y sengl. Yn hanu o Gaerfyrddin ond gyda chysylltiadau teuluol gydag ardal Aberystwyth. Lois sydd wedi ei chomisiynu i greu gwaith celf albwm cyntaf Bwca bydd Tregaron yn rhan ohono.

Mae’r sengl yn flas o’r cywaith gweledol a cherddorol sydd ar y ffordd. Ceredigion ydy thema’r albwm, sy’n amserol iawn wrth i’r Eisteddfod ymweld â’r sir eleni.

Datgelodd Steffan o’r grŵp y newyddion am ddyddiad rhyddhau’r sengl wrth iddo berfformio set unigol fel rhan o Wyl Ynysu Y Selar ddydd Sul. Gallwch ail-fyw y set lawn isod.

Gig o Soffa Steff #Gwylynysu Y Selar

Posted by Bwca on Sunday, 29 March 2020