Bwca yn ysu am weld Elvis Rock

Mae Bwca wedi rhyddhau eu sengl diweddaraf, ‘Elvis Rock’ ers dydd Gwener diwethaf, 17 Gorffennaf.

Hon fydd trydedd sengl y grŵp o’r canolbarth eleni gan ddilyn ‘Hiraeth Fydd 701’ a ryddhawyd fis Mehefin a ‘Tregaron’ ym mis Ebrill.

Mae’r trac newydd wedi’i hysbrydoli gan y graig enwog ar y ffordd dros fynydd Pumlumon sydd â’r gair ‘Elvis’ wedi’i phaentio arni ers y 1960au.

Mae’r gân yn trafod gadael prysurdeb y brifddinas a theithio nôl ar hyd yr A460 gan ysu i weld Elvis Rock er mwyn cael y teimlad o fod adref yn Y Fro Gymraeg yng Ngheredigion.

Yn ôl y grŵp mae hon yn gân roc a rôl go iawn sy’n adlewyrchu’r hyn sydd ar stereo Steff Rees, gitarydd a chanwr Bwca, sydd wedi cyfansoddi’r gân.

Hefyd yn ymddangos ar y trac mae aelodau eraill Bwca, Rhydian Meilir Pughe (dryms), Kristian Jones (gitâr), Nick Davalan (bas) ac Iwan Hughes (llais cefndir).  Mae Ifan Jones hefyd yn ymddangos fel gitarydd gwadd.

Cyfres o senglau

Mae argyfwng pandemig COVID-19 wedi rhoi taw ar gynlluniau nifer o fandiau, ond teg dweud bod Bwca wedi gwneud y gwrthwynebu gan fynd ati i ryddhau cyfres o senglau dros y cyfnod yma.

Mae’r traciau yma i gyd o’r casgliad a recordiwyd ganddynt yn ddiweddar ganddynt gyda chwmni Drwm, yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Mae’r senglau wedi bod yn amrywiol, o gymysgedd indi-pop a chanu gwlad ‘Tregaron’ i faled bwerus ‘Hiraeth Fydd (701)’. Nod Bwca ydy creu darlun o’u bro gyda chaneuon bachog a chofiadwy sy’n llawn amrywiaeth a haenau o ddylanwadau hen a newydd.

Unwaith eto, fel gyda senglau blaenorol y grŵp, darlun gan yr artist Lois Ilar sy’n ymddangos fel gwaith celf y sengl newydd.

Label Recordiau Hambon sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl.