Mae’r artist pop electronig Carw wedi rhyddhau sengl a fideo newydd heddiw, 31 Gorffennaf, gydag albwm i ddim ym mis Awst.
‘Amrant’ ydy enw sengl ddiweddaraf Carw, ac roedd cyfle cyntaf i weld y fideo newydd ar wefan Y Selar nos Fercher diwethaf.
Carw ydy prosiect electronig Owain Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Ganolbarth Cymru ond sydd bellach yn byw yn Leipzig yn Yr Almaen.
Bydd Owain yn gyfarwydd i ran fel aelod o Violas, ac mae hefyd wedi gweithio gyda Cotton Wolf, Eugene Capper a Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronig, Hlemma.
Albwm ar y ffordd
Daw’r sengl o’i albwm newydd, Maske, fydd yn cael ei ryddhau ar 21 Awst ar label Recordiau Blinc.
Mae Owain wedi symud i’r Almaen yn lled ddiweddar, ac mae’r newid amgylchedd yn nodi gwyriad bychan o’i waith blaenorol.
Y canlyniad ydy cryno albwm saith trac offerynnol, gyda churiadau cadarnach a synau synth tywyllach, gan ddod â naws Depache Mode a chyffyrddiadau o weithiau o’r 1990au cynnar grwpiau fel Orbital ac Aphex Twin.
Mae ‘Maske’ yn deillio o emosiynau gadael gwlad gyfarwydd ble’r oedd Owain wedi creu llawer o gysylltiadau, gan symud i greu bywyd newydd i’w hun mewn gwlad ble nad oedd yn adnabod unrhyw un.
‘Maske’ ydy’r gair Almaeneg am ‘mwgwd’, a thrwy ddefnyddio’r gair fel enw ar gyfer yr albwm, mae Owain yn ymateb i’r teimlad o fod yn anweledig anhysbys.
Mwgwd
Mae’r casgliad o ganeuon yn dwyn i gof blwyddyn gyntaf ei fywyd newydd yn Yr Almaen, yn camgymryd wynebau ar strydoedd Leipzig am wynebau cyfarwydd gartref a chydnabyddiaethau heb eu dychwelyd yn arwain at y teimlad cynhenid ei fod wedi’i guddio tu ôl i guddwisg, neu fwgwd.
Mae pob trac ar yr albwm yn ymateb i agweddau gwahanol o’r emosiwn hwnnw.
Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Amrant’: