Carwyn Ellis yn rhyddhau trac er budd Tarian Cymru

Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau trac newydd fel rhan o ymdrech i godi arian er mwyn prynu offer gwarchodol personol i weithwyr iechyd yng Nghymru yn ystod yr argyfwng Coronavirus.

‘Cherry Blossom Promenade’ ydy enw’r trac newydd ac yn ôl Carwyn fe ddechreuodd ysgrifennu’r gân yn ystod Gwanwyn 2016 wrth iddo ymweld â Nara yn Siapan a gweld y blodau’n blaguro ar lannau’r afon Saho.

Roedd yn brofiad na fyddai fyth yn anghofio, a datgela’r cerddor ei fod yn credu fod y gân yn un na fyddai fyth yn ei gorffen.

Yn ffodus iawn, llwyddodd i gwblhau’r trac o’r diwedd tua terfyn 2019, a’i recordio ar hen biano gwichlyd yn stiwdio Shawn Lee yn Llundain.

Mae modd prynu’r trac ar safle Bandcamp Carwyn a bydd yr holl incwm o werthiant yn mynd tuag at ymgyrch elusennol Tarian Cymru sy’n helpu darparu offer gwarchodol angenrheidiol i weithwyr iechyd a gofalwyr yng Nghymru.