Mae’r gantores a chomediwraig boblogaidd, Carys Eleri, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd ers 15 Rhagfyr.
‘Swigod y Nadolig ydy enw’r trac Nadoligaidd ganddi, ac fe’i rhyddhawyd fel rhan o arlwy ‘Adfent Amgen’ yr Eisteddfod Genedlaethol.
Er mai nawr, ar drothwy’r Nadolig, mae Carys yn rhyddhau’r trac newydd yn swyddogol, dywed y gantores ei bod wedi cyfansoddi’r gân mewn amgylchiadau gwahanol iawn.
“Sgrifennes i’r gân nôl yn yr haf mewn heatwave” datgela Carys, fydd yn perfformio’r gân yn sioe Nadolig Noson Lawen ar S4C.
“Gofynnodd cynhyrchwyr Noson Lawen i fi ganu cân hwylus i’r Nadolig – felly es i ati i ysgrifennu hon yn syth.”
Nadolig hynod
Syniad Carys oedd creu cân fyddai’n adlewyrchu’r Nadolig hynod yma ym mlwyddyn y pandemig, ond cân fyddai hefyd yn gallu bodoli mewn unrhyw flwyddyn arall hefyd.
“Ma pawb wedi dod i adnabod y term ‘swigod/swigen’ fel y bobol chi’n ‘byblo’ gyda nhw yn ystod y cyfnod yma, felly o’n i am greu cân oedd yn dathlu ein swigod ni” meddai Carys.
“A falle nad ein teulu ni sydd yn y swigod yma achos ein bod ni methu dod at ein gilydd.
“Ac wrth gwrs – hyd yn oed tu allan i’r pandemic, ma’r bobl sydd yn ein swigod ni yno drwy gydol ein bywyd. Nhw yw’r rhai sydd wastad yn cadw ni fynd… O ie, a fi hefyd yn dwli ar yfed bybls…a-hem!”
I gyd-fynd a’r sengl mae Carys wedi creu fideo ar gyfer y sengl newydd, gan ddilyn y fideo llwyddiannus a greodd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen yn yr haf.
Mae partner cerddorol hir-dymor Carys, sef Branwen Munn, wedi cyd-weithio â hi unwaith eto i gynhyrchu’r gân a Griff Lynch sydd wedi golygu’r fideo.
Dyma’r fideo: