Casi’n rhyddhau sengl Nadoligaidd

Mae Casi Wyn wedi cyfansoddi carol newydd sydd wedi rhyddhau fel sengl ddydd Gwener diwethaf, 18 Rhagfyr.

‘Nefolion’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i gyfansoddi ar y cyd rhwng y gantores a Gwennant Pyrs. Owain Llwyd sy’n gyfrifol am y trefniant.

Yn ôl Casi mae’r trac yn un er cof am ffrind, ac yn ddathliad o’i bywyd. Mae’n gobeithio bydd ‘Nefolion’ yn codi’r ysbryd ac yn annog gobaith a llawenydd yn ein mysg, pa bynnag heriau ddaw i’n rhan ar drothwy blwyddyn newydd.

Yn ogystal â’r trac Cymraeg, bydd fersiwn Saesneg o’r gân yn cael ei ryddhau hefyd.

Dyma ‘Nefolion’: