Bydd y grŵp o Fangor, CELAVI, yn rhyddhau eu sengl newydd ar 30 Hydref 2020.
‘Stain’ ydy enw’r sengl fydd yn cael ei rhyddhau ar label MERAKI.
CELAVI ydy Gwion a Sarah, ac maen nhw’n ddeuawd electronig, metal a roc pwerus. Mae sŵn mawr a thrwm gitâr y band yn wrthgyferbyniad llwyr i lais ysgafn a meddal Sarah, gan wneud eu sŵn yn hollol unigryw.
Mae’r sengl newydd gan CELAVI yn dilyn yr EP, ‘Novus’, a ryddhawyd ganddynt ym mis Awst 2019.
Cafodd y caneuon eu ffrydio dros chwarter miliwn o weithiau, yn ogystal â denu sylw dramor yn Rwsia, Yr Almaen ac yr UDA.
Mae ‘STAIN’ yn gân am sefyll i fyny dros dy hun, ac sy’n annog unigolion i herio’r bobl gas a ffeindio’r pŵer sydd tu mewn i bawb.