Cerddorion yn tyfu tash a chlocio’r cilomedrau

Drwy gydol mis Tachwedd, mae criw o gerddorion adnabyddus wedi bod yn cymryd rhan mewn her Tashwedd (Movember) er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd dynion, ac arian at elusennau yn y maes.

Yn ogystal â thyfu mwstash am fis, mae’r criw hefyd wedi mynd ati i redeg neu seiclo 750km dros y cyfnod hefyd.

Bu un o’r criw, sef Dion Jones o’r band Alffa, yn trafod yr her a’r budd mae o’n bersonol wedi’i gael o redeg yn ystod 2020 ar y podlediad rhedeg Cymraeg ‘Y Busnes Rhedeg Ma’ yn ddiweddar.

Dywed fod rhedeg wedi helpu llenwi’r bwlch o berfformio ar lwyfan i raddau helaeth, ac wedi bod yn hynod o bwysig iddo yn 2020.

Tash Mob

Y saith sydd wedi galw eu hunain yn ‘Tash Mob’ ydy Dion Jones a Sion Land o’r grŵp Alffa, Rhys Grail ac Ifan Pritchard o’r grŵp Gwilym, Elis Derby, Yws Gwynedd a’r ffotograffydd a drymiwr Sibrydion a Bob, Dafydd Nant.

Dywed y criw ei bod wedi ymgymryd â’r her i “godi arian ac ymwybyddiaeth am atal hunanladdiad mewn dynion a cancr y prostate a’r ceilliau” ac ar bodlediad Y Busnes Rhedeg Ma mae Dion yn trafod pwysigrwydd hyn iddo ef yn bersonnol, a sut mae’n arbennig o bwysig i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg dynion.

Fe gyfansoddodd Alffa gân drawiadol o’r enw ‘Babi Mam’ sy’n ymwneud yn benodol â’r pwnc, ac sydd wedi creu cryn argraff.

Mae criw y Tash Mob wedi llwyddo i godi dros £1000 at yr elusen yn ystod y mis – gallwch gyfrannu o hyd ar eu safle elusen.

Dyma’r podlediad gyda Dion:

Llun: Dion a Sion o Alffa sy’n aelodau o’r Tash Mob