Mae albwm newydd Colorama allan yn y siopau heddiw, 18 Medi.
‘Chaos Wonderland’ ydy enw record hir ddiweddaraf band Carwyn Ellis, ac mae’r traciau allan ar lwyfannau digidol ers 31 Gorffennaf.
Er hynny, bydd llawer wedi bod yn edrych ymlaen at weld fersiynau feinyl a CD y record yn ymddangos, ac o’r diwedd bydd modd eu prynu o siopau recordiau ddydd Gwener.
“Fi wedi teithio lot dros y blynyddoedd diwethaf ‘ma ac wedi gweld lot o lefydd mewn ffrwd lwyr, ar frys ac ie – mewn chaos” meddai Carwyn wrth egluro enw’r albwm.
“Unlle yn fwy felly nag adref. Ond wrth wneud hynny, rwy’ wedi gweld cymaint sy’n fy ngwneud i’n llon, yn arbennig felly’r golygfeydd dwi wedi gweld, ynghyd â chynhesrwydd a charedigrwydd greddfol y mwyafrif helaeth o bobl rwy’ wedi cyfarfod.”