Copiau CD o albwm Mirores

Mae nifer cyfyngedig o gopïau CD coch o albwm Ani Glass, Mirores, wedi eu rhyddhau i’w prynu ar wefan label Recordiau NEB.

Rhyddhawyd yr albwm ar 6 Mawrth, gyda dim ond 110 o gopïau caled o’r record hir ar gael i’w prynu ar CD cyfyngedig.

Yn wreiddiol roedd y cyfle cyntaf i brynu’r CDs yn mynd i fod ar gael i’r rhai oedd yn mynd i’r gigs lansio, ond yn anffodus bu’n rhaid gohirio dwy o’r sioeau hynny yn Wrecsam a Chaerfyrddin o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.

Gyda dim sôn am gyfle i ail-drefnu’r gigs hynny ar hyn o bryd, dros y penwythnos fe gyhoeddodd NEB y byddai’r CDs sydd ar ôl yn mynd ar werth ar eu gwefan.

Roedd y cyfle cyntaf i brynu i’r rhai oedd wedi archebu tocynnau i’r gigs byw, ond ers 12:00 dydd Sadwrn mae modd i unrhyw un brynu’r capiau, gyda chyfyngiad o un copi i bob archeb.

Yn wreiddiol roedd bwriad i ryddhau fersiwn cyffredinol, syml, o’r albwm ar CD yn ogystal â’r copïau cyfyngedig arbennig. Erbyn hyn mae NEB wedi cyhoeddi bod y cynllun hwnnw wedi’i ohirio nes bod sefyllfa’r Coronavirus yn setlo.