Cotton Wolf yn ail-gymysgu ‘Madryn’

Mae’r ddeuawd electronig, Cotton Wolf, wedi ail-gymysgu sengl ddiweddaraf Georgia Ruth, ‘Madryn’.

Rhyddhawyd ‘Madryn’ ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror, a dyma’r sengl gyntaf i weld golau dydd o’i halbwm newydd, Mai, sydd allan ar 20 Mawrth.

Dyma fydd trydydd albwm llawn Georgia, ac mae’n fyfyrdod ar geisio darganfod gobaith yn y tymhorau, mewn byd lle mae sicrwydd Gwanwyn yn teimlo’n fwyfwy bregus.

Law yn llaw â fersiwn wreiddiol ‘Madryn’, mae fersiwn wedi’i ail-gymysgu Cotton Wolf o’r sengl allan ers dydd Gwener 7 Chwefror hefyd ar yr holl lwyfannau digidol arferol.

Hyfryd, ond brawychus

“Roedden ni’n awyddus i roi llais Georgia mewn i le fwy tywyll a dirgel” meddai Cotton Wolf, sef y cynhyrchydd uchel ei barch, Llion Robertson, a’r cyfansoddwr clasurol Seb Goldfinch.

“Roedd ansawdd ei llais ynysig yn hyfryd ond eto’n frawychus ar yr un pryd, felly roedd e’n gwneud synnwyr perffaith i fynd i’r cyfeiriad hwnnw. Roedd fflipio’r hyn oedd i ddisgwyl o’r trac yn ein cyffroi ni’n fawr.”

Bydd Mai ar gael yn ddigidol, ar CD, ac ar feinyl cyfyngedig ar 20 Mawrth 2020 trwy label Bubblewrap Collective.

Bydd cyfweliad llawn gyda Georgia Ruth am ei halbwm newydd yn rhifyn newyddf Y Selar sydd allan yn dilyn Gwobrau’r Selar y penwythnos yma.