‘Cwcw’ – sengl newydd Elis Derby

Mae Elis Derby wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 3 Ionawr.

‘Cwcw’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor poblogaidd o Wynedd, ac mae allan yn ddigidol trwy label Recordiau Côsh.

Y newyddion da pellach ydy fod y sengl yn damaid i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf Elis, fydd allan yn fuan iawn yn ôl y label.

Ymuno â Côsh

Sefydlodd Elis label ei hun (Recordiau Hufen) yn wreiddiol er mwyn rhyddhau ei senglau cyntaf.

Er hynny, yn dilyn sgwrs gydag Yws Gwynedd, rheolwr label Côsh, yn ystod gig Eisteddfod yr Urdd yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Mai, setlwyd ar gynllun i ryddhau ei albwm cyntaf ar Recordiau Côsh.

Mae band Elis yn cynnwys y cerddorion Sion Gwyn, Llion Lloyd a Carwyn Williams, ac maent wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn recordio gydag Ifan Emlyn o gwmni Drwm, yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Amrwd

Bwriad Elis ydy cadw’r recordiadau mor amrwd â phosib, gan ddilyn steil un o’i hoff artistiaid, Mac DeMarco. Yn ôl y label, mae’r sŵn sy’n cael ei greu’n asio’n berffaith gyda’r gerddoriaeth gan fod Elis yn dda iawn am lunio caneuon gonest, gyda geiriau sy’n hollti allan o’r cordiau diddorol.

‘Cwcw’ ydy’r gyntaf o ddwy sengl sy’n cael eu rhyddhau fel rhagflas i’r albwm. Cafodd y trac ei chwarae gyntaf ar raglen Bethan Elfyn ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.

Dywed y cerddor ei fod yn bwriadu cyhoeddi manylion ambell gig yn fuan hefyd.

Ddoe fe gyhoeddwyd fideo sesiwn ar gyfer ‘Cwcw’ ar sianel YouTube cyfres Lŵp…a dyma fo: