Cwtsh – wynebau cyfarwydd yn cynnig sŵn newydd

Rhyddhaodd grŵp newydd sbon o’r enw Cwtsh eu sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’, ar safle Bandcamp wythnos diwethaf.

Er yn brosiect newydd, mae Cwtsh yn cynnwys aelodau cyfarwydd sy’n gerddorion profiadol….yn wir, fe ellid dadlau eu bod nhw’n bach o siwpyr grŵp!

Mae’r triawd yn cynnwys Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis.

Y sengl newydd ydy ffrwyth llafur cyntaf prosiect a ddechreuodd nôl ym mis Awst 2019, a’r newyddion da ydy mai dim ond y trac cyntaf o nifer sydd wedi eu recordio gan Cwtsh ydy ‘Gyda Thi’.

Gweithio o bell

Dechreuodd y prosiect yn dilyn sgwrs rhwng Alys a Siôn mewn gig yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd.

“Rydym yn adnabod ein gilydd trwy ffrindiau….ac roeddwn i’n gwybod fod Siôn yn gerddor arbennig, a phan welis i o yn noson Mark Cyrff, yn Eisteddfod Llanrwst y llynedd, penderfynon ni ddechrau prosiect gyda’n gilydd” eglura Alys.

“Es i i Lanrwst gyda’r awydd i ddechre prosiect cerddorol newydd, a digwydd taro ar draws Alys yn y gig” ychwanega Siôn.

“Roeddwn i wedi gweld ar Facebook ei bod hi wedi dechre rhyddhau caneuon dawns-electroneg dan yr enw Lunar Glass, ond doeddwn i ddim wedi eu clywed nhw eto. Wedodd hi fod awydd gyda hi i wneud rhywbeth yn y Gymraeg hefyd, ac wedyn dechreuon ni gyd-weithio dros y we, yn danfon syniadau nôl a ’mlaen o bellter.”

Yn dilyn hyn aeth y ddau ati i gyfansoddi a recordio, ac mae chwech neu saith trac wedi bod ar y gweill ganddynt – ‘Gyda Thi’ ydy’r cyntaf o’r rhain i weld golau dydd.

Recordio yn y cwpwrdd ‘sgidiau

Mae’r cloi mawr wedi ymyrryd rhywfaint argynlluniau Cwtsh fel llawer o fandiau eraill, ond mae Alys yn egluro eu bod wedi dal ati gorau posib.

“Pan orfodwyd ni i roi stop ar y recordio, penderfynais fy mod am newid fy nghwpwrdd ‘sgidiau i fod yn voice booth, er mod fychan oedd o! Ond mi wnaeth o weithio ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud y trac yma gan wneud union hynny.”

Mae Siôn ar hyn o bryd yn byw yng Nghydweli, ac mae Alys yn Y Felinheli felly mae trefnu sesiynau yn y stiwdio wedi bod yn anodd. Er hynny, maen nhw wedi llwyddo i fod yn greadigol a hyd yn oed greu ambell fideo.

“Yn ystod y cyfnod hunan ynysu yma, rydym wedi gwneud ambell fideo yn perfformio, ac wedi penderfynu mai yn ystod y cyfnod hwn ydy’r amser gorau i gyhoeddi caneuon gan fod y gerddoriaeth wedi cael ei dylanwadu gan y pwysigrwydd o greu undod a chariad at ein gilydd.

“Yn y cyfnod yma mae’r teimlad a’r neges yn fwy pwysig nag erioed.”

Dywed Alys mai ei phrif ddylanwadau ydy cerddorion pop a dawns gan restru Florence and The Machine a Billy Eillish ymysg y prif ddylanwadau – mae’n hoff o gerddoriaeth “sy’n creu drama”.

Yn fwy diweddar mae Siôn a Betsan hefyd wedi bod yn cyfrannu at gerddoriaeth Lunar Glass yn ogystal â Cwtsh, ac roedd y tri ar fideo’r diwn wych ‘My Vibe’ a gyhoeddwyd ar-lein ganol mis Mai.

Aelodau profiadol

Mae Sion yn gerddor hynod o brofiadol – roedd Edrych am Jiwlia ac Y Gwefrau yn ddau o grwpiau amlycaf sin Caerdydd ar ddiwedd yr 80au / dechrau’r 90au, gyda Huw Bunford aeth ymlaen i fod yn gitarydd y Super Furry Animals, hefyd yn aelod o’r ddau grŵp.

Wedi hyn fe gyd-weithiodd Siôn rywfaint gyda Tynal Tywyll, trefnu caneuon i Nathan Hall a’r band a rhyddhau rhywfaint o gerddoriaeth yn yr iaith fain gyda’r grŵp The Collectors. Roedd hefyd yn aelod o’r grŵp Y Profiad gydag Alun Owens, neu Y Parchedig Pop, fel yr oedd yn cael ei adnabod am gyfnod ar Radio Cymru – Siôn oedd yn gyfrifol am gyd-ysgrifennu caneuon Y Parchedig Pop a’r stings ar gyfer ei raglen radio.

Yn fwy diweddar mae Betsan wedi ymuno â’ grŵp fel drymiwr, sy’n rhoi sgôp ychwanegol i’r hyn maen nhw’n gwneud yn ôl Alys.

Gallwn ddisgwyl mwy gan Cwtsh yn fuan iawn mae’n ymddangos, ac yn ôl Alys bydd y trac nesa’n cymryd mantais llawn o sgiliau offerynnol yr aelod diweddaraf, ac yn “llawer mwy bywiog”.

“Dwi wastad yn awyddus i gymryd cyfeiriadau newydd mewn cerddoriaeth ac fy mreuddwyd yw i berfformio ein deunydd newydd gyda cherddorfa” meddai Alys.

“Rydym yn edrych ymlaen go iawn i ddod at ein gilydd cyn bo hir i baratoi ar gyfer perfformiadau byw a gobeithio na fydd hynny’n rhy hir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i greu perfformiadau cyson ar-lein.”

Yn ôl Siôn mae ganddyn nhw saith cân wedi eu hysgrifennu, a chwech wedi eu recordio’n barod, gan ddychwelyd at gynhyrchydd cyfarwydd er mwyn gwneud hynny.

“Mae chwech o’r caneuon wedi eu recordio’n barod yn stiwdio Sonic One yn Llangennech gyda Tim Hamill.

“Gyda Tim wnaethon ni recordio albwm Y Profiad a chasét olaf Y Gwefrau nôl ar dechrau’r 1990au pan oedd y stiwdio yng Nghydweli!”

O ystyried profiad, a safon ardderchog y cerddorion sy’n ffurfio Cwtsh, gallwn ni edrych ymlaen yn fawr at glywed eu caneuon newydd dros y misoedd nesaf.