Prosiect sydd wedi creu cryn dipyn o argraff arnom ni’n ystod 2020 ydy Ystyr.
Dyma chi fand sydd wedi manteisio ar heriau’r flwyddyn i greu cerddoriaeth arbrofol, a digon unigryw, yn gyson trwy gydol y flwyddyn.
Roedd y grŵp yn bach o ddirgelwch am gryn amser, ond roedd Y Selar yn ddigon ffodus i ddysgu mwy amdanynt wrth baratoi darn estynedig fis Tachwedd.
Nawr, rydan ni’n falch iawn i gyflwyno cerddoriaeth newydd ganddyn nhw reit ar ddiwedd y flwyddyn, a rhywbeth penodol i ddirwyn 2o2o i ben, a chroesawu 2021 ar yr un pryd
“‘Curiad’ ydi hwn yn hytrach na chân” eglura Owain Brady o’r grŵp.
“Curiad i groesawu’r flwyddyn newydd ac i sgubo ffwrdd yr hen un, gan ddefnyddio hen draddodiadau Cymraeg wedi’i cyfuno gyda hip hop.
“Mae o’n beat fel ’sa rhywun fel Dilla neu DJ Shadow neu rywun tebyg yn ei gynhyrchu – mwy mewn traddodiad beat byr ar albwm hip hop yn hytrach na chân fawr.”
Ac yn ôl Owain mae eu gwaith diweddaraf yn tynnu ar hanesion tywyll rhai o draddodiadau gwerin y Cymru sydd i’w canfod yn y Mabinogi ac ati.
“Mae thema tywyll y curiad yn adlewyrchu hanes tywyll traddodiadau gwerin y Cymry, a thywyllwch y flywddyn a fu.
“Serch hynny mae yn nodyn o obaith ynddo, gan edrych ymlaen at 2021 a dechrau newydd.”
Dyma ‘Mari Lwyd’, gan ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb hefyd: