Cyfle cyntaf i glywed…’Cymru’ gan Cwtsh

Bydd y grŵp newydd, Cwtsh, yn rhyddhau eu sengl newydd ddydd Gwener nesaf, 18 Medi, ond mae cyfle cyntaf i chi glywed ‘Cymru’ ar wefan Y Selar cyn unrhyw le arall.

Ffrwydrodd Cwtsh i amlygrwydd ym mis Mehefin eleni wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’, a greodd dipyn o argraff.

Er eu bod Cwtsh yn grŵp newydd, mae’r triawd i gyd yn wynebau cyfarwydd i bobl sydd wedi bod yn dilyn cerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd.

Yr aelodau ydy Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis.

Bydd modd lawr lwytho’r sengl newydd ar safle Bandcamp Cwtsh o ddydd Gwener nesaf ymlaen.

Byddwn yn rhoi mwy o sylw i’r sengl dros yr wythnos nesaf, ond am y tro, mwynhewch ‘Cymru’: