Ecsgliwsif byd eang arall i’r Selar!
Rydan ni’n falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed sengl newydd sbon y grŵp ifanc gwych, Dienw.
‘Ffilm’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd ifanc sydd wedi ffrwydro i amlygrwydd yn ystod ail hanner 2019, ac mae’n cael ei ryddhau gan label recordiau I KA CHING ddydd Gwener yma.
Mwy am y trac isod, ond cyn hynny mwynhewch sŵn ‘Ffilm’:
Mae’r sengl newydd allan yn swyddogol ar ddydd Gwener yma, 24 Ionawr. Hon fydd trydydd sengl Dienw hyd yma.
Recordiwyd ‘Ffilm’ dros gyfnod Calan Gaeaf 2019 yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth gyda’r cynhyrchydd poblogaidd Rich Roberts.
Mae geiriau’r gân yn gymysgedd o odlau yr ysgrifennodd Twm, canwr a gitarydd Dienw, dros fisoedd, sy’n seiliedig ar gymeriadau o wahanol ffilmiau, gan egloro enw’r gân!
Unwaith eto, crewyd y gwaith celf gan brif leisydd y band – Twm, ac mae’r band yn gweithio ar fideo i gyd-fynd â’r sengl a fydd yn ymddangos ar ddechrau mis Chwefror.
Bydd cyfle i weld Dienw yn perfformio’n fyw ar lwyfan Gwobrau’r Selar ar nos Wener 14 Chwefror bachwch eich tocyn rŵan!