Cyfle cyntaf i glywed…’Ffoi’ gan Ghostlawns

Bydd y grŵp o Gaerdydd, Ghostlawns, yn rhyddhau eu hail sengl ar Bandcamp a llwyfannau ffrydio digidol eraill ar 4 Medi.

Ac mae’r Selar yn cael y pleser o rannu’r trac ar-lein am y tro cyntaf, gan roi’r cyfle cyntaf i chi ei chlywed.

‘Ffoi’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Motorik’, fydd allan ar 30 Hydref eleni.

Er yn enw newydd, mae Ghostlawns wedi ymddangos mewn gwyliau arddangos sy’n cynnwys FOCUS Wales a gŵyl Sŵn, ynghyd â chyfrannu caneuon ar gyfer albyms aml-gyfrannog ‘Hope Not Hate’ a ‘Iechyd Da’ (albwm tyrnged Gorky’s Zygotic Mynci).

Wedi dweud hynny, mae peth dirgelwch ynglŷn ag union aelodaeth y grŵp er eu bod  i gyd yn gerddorion amlwg yng Nghymru ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.

Byddwn ni’n siŵr o glywed mwy am y grŵp wrth agosau at ddyddiad rhyddau’r albwm, ond am y tro, mwynhewch ‘Ffoi’: