Un o’n hartistiaid mwyaf diddorol a chyffrous ar hyn o bryd ydy Teleri, ac mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed ei sengl newydd sydd allan ar 1 Medi.
Mae Teleri wedi cadw’n brysur iawn eleni, ac yn enwedig felly’n ystod y cyfnod clo gan ryddhau cyfres o senglau.
Byth ers darganfod ei thrac ‘Euraidd’ ar Soundcloud ym mis Ionawr, mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg agos ar y gantores electronig gan roi sylw i’w senglau ers hynny.
‘Gola’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf ganddi, ac mae’r trac wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth felodig deep house Lane 8, ei naws lleddfol a’i alawon hypnotig.
Trwy ddarganfod Lane 8, dywed Teleri ei bod wedi dechrau dod i nabod y byd dawns minimalydd ac i ddatblygu traciau sy’n perthyn i’r genre.
Gan fod cerddoriaeth yn gallu chware rhan mor bwysig i wella lles, mae Teleri’n gobeithio creu profiadau sy’n bositif ac yn dathlu hapusrwydd a rhyddid.
Felly, gwrandewch, a mwynhewch ‘Gola’: