Mae albwm cyntaf y grŵp gwych Lewys allan fory, ac mae cyfle cyntaf i glywed un o draciau’r albwm ar wefan Y Selar heno.
Rhywbryd yn Rhywle ydy enw record hir gyntaf y grŵp enillodd wobr ‘Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd, ac fe ryddhawyd sengl newydd ‘Y Cyffro’ i roi blas ddechrau’r mis. Cyhoeddwyd fideo ar gyfer y trac hwnnw ar sianel YouTube Lewys hefyd.
Mae’r Selar yn falch iawn i ddatgelu un arall o draciau’r albwm i chi heno – dyma ‘Hel Sibrydion’: