Cyfle cyntaf i glywed…’Pydru’ gan Patryma

Bydd grŵp roc amgen newydd o ardal Caernarfon, Patryma, yn rhyddhau eu hail sengl ddydd Gwener yma, 31 Gorffennaf.

‘Pydru’ ydy enw sengl newydd y grŵp, ac mae’n bleser gan Y Selar roi’r cyfle cyntaf i chi glywed y trac.

Mae’r sengl yn ddilyniant i’r trac cyntaf a ryddhawyd gan Patryma nôl ym mis Mawrth, sef ‘Disgyn’.

Er hynny, yn ôl y ffryntman, Siôn Foulkes, dyma’r gân gyntaf a ysgrifennwyd ganddo a’r gitarydd Daniel McGuigan cyn recriwtio’r ddau aelod arall.

Mwy am y sengl yn y man, ond am y tro mwynhewch ‘Pydru’: