Cyfle cyntaf i glywed…’Tymhorau’ gan Teleri

Bydd enw Teleri yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi dilyn cerddoriaeth Gymraeg yn ystod 2020, neu yn wir unrhyw un sydd wedi pori gwefan Y Selar dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gantores electronig newydd wedi rhyddhau cyfres o senglau ers dechrau’n flwyddyn, ac mae’r Selar yn falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed y ddiweddaraf.

‘Tymhorau’ ydy enw sengl newydd Teleri, ac fe fydd allan yn swyddogol ar ddydd Sul 1 Tachwedd ar safle Bandcamp y gantores.

Mwynhewch.