Bydd Teleri yn rhyddhau’r diweddaraf mewn cyfres o senglau ganddi ar ddydd Iau 1 Hydref, ond mae cyfle cyntaf i chi glywed y trac cyn hynny yma ar wefan Y Selar.
Enw’r trac diweddaraf gan y gantores electronig addawol ydy ‘Tywod’ a bydd yn cael ei rhyddhau ar ei safle Bandcamp.
Wrth i nifer o artistiaid ei chael hi’n anodd yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, mae Teleri’n un o’r rhai sydd wedi blodeuo yn ystod y cyfnod hwn gan ryddhau cynnyrch newydd yn rheolaidd.
Daeth y gantores i’r amlwg gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn gan ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Euraidd’ ym mis Ionawr.
Ers hynny mae wedi rhyddhau cyfres o senglau sef ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill, ‘Hawdd‘ ym mis Gorffennaf, ‘Haf’ ar ddechrau mis Awst a ‘Gola’ ar 1 Medi.
Mwy am y sengl newydd isod, ond heb oedi ymhellach, dyma ‘Tywod’:
Wrth i ni droi at yr Hydref, mae ‘Tywod’ yn cyfuno geiriau atgofus gyda rhythm sy’n gyrru’r gân yn ei blaen.
“Mae’n atgoffa fod amser o hyd yn troi, fel y tonnau” meddai Teleri.
“Mae’n cyfleu’r naws hiraethus o weld y presennol yn troi’n orffennol a’r cyffro o ddechreuadau newydd yn y dyfodol.”