Cyfle cyntaf i glywed…‘Yuri Gagarin’ gan Hap a Damwain

Mae’n bleser gan Y Selar gyflwyno sengl newydd sbon Hap a Damwain, ‘Yuri Gagarin’.

Dyma chi un o fandiau bywiocaf cyfnod y cloi mawr yng Nghymru heb os – mae Hap a Damwain eisoes wedi rhyddhau dau EP yn ystod cyfnod y cloi, sef ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd ym mis Mai, ac ‘Ynysig #2’ a ryddhawyd fis Mehefin.

Mae’r sengl newydd allan yn swyddogol ddydd Gwener yma, 17 Gorffennaf, ar safle Bandcamp Hap a Damwain.

Mwy am y sengl dros y dyddiau nesaf, ond am y tro, mwynhewch ‘Yuri Gagarin’.