Mae’r gantores electroneg, Teleri, yn rhyddhau ei sengl newydd ar-lein wythnos yma ond dyma gyfle cyntaf i chi glywed y trac yn ecsgliwsif ar wefan Y Selar.
‘Hawdd’ ydy enw trydedd sengl Teleri ac mae’n gân sy’n dathlu tywydd yr haf a sut gall y cyfnod cynhesach roi cryfder i rywun gael persbectif mwy cadarnhaol ar eu bywyd, ac ar eu hunain.
Mae Teleri yn artist cerddorol a gweledol sy’n disgrifio ei cherddoriaeth fel caneuon sy’n archwilio ei phrofiad personol o’r byd natur, gan gyfleu tirwedd newidiol ei hiechyd meddwl.
Ymddangosodd y gantores gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn eleni gan ryddhau’r trac ‘Euraidd’ a gafodd ymateb arbennig o dda. Dilynwyd hynny gan sengl o’r enw ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill.
Gyda’i thrac newydd, mae Teleri yn camu’n ôl o’i chaneuon mewnsyllgar ac yn croesawu cyfeiriad newydd sy’n ysgafnach.
Heb oedi ymhellach felly, dyma ‘Hawdd’: