Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Amrant’ gan Carw

Mae sengl newydd yr artist pop electroneg, Carw, allan ddydd Gwener yma ac mae’n bleser mawr gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo.

‘Amrant’ ydy enw sengl ddiweddaraf Carw, sef prosiect electronig Owain Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Ganolbarth Cymru ond sydd bellach yn byw yn Leipzig yn Yr Almaen. Bydd Owain yn gyfarwydd i nifer fel cyn aelod o Violas, sydd hefyd wedi chwarae fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper a Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronig, Hlemma

Daw’r sengl o’i albwm newydd, Maske, fydd yn cael ei ryddhau ar 21 Awst ar label Recordiau Blinc.

Dyma gynnyrch cyntaf Owain gyda phrosiect Carw ers rhyddhau’r albwm Skin Shed yn 2018.

Mwy am y sengl a’r albwm newydd dros y dyddiau nesaf, ond am y tro, mwynhewch fideo ‘Amrant’: