Cyfle cyntaf i weld….fideo ‘Blaidd (Nol a Nol)’ gan Cai

Mae’r Selar bob amser yn falch iawn o’r cyfle i gyflwyno artistiaid ifanc cyffrous i chi, ac mae ganddom ni gerddoriaeth cyntaf gan artist addawol iawn arall i chi heddiw.

Cai ydy enw’r cerddor dan sylw, ac rydan ni’n falch iawn nid yn unig o gynnig y cyfle i chi ei glywed am y tro cyntaf, ond hefyd i weld y fideo ar gyfer ei drac newydd ‘Blaidd (Nol a Nol)’.

Mae ‘Blaidd (Nol a Nol)’, ynghyd â dau drac arall gan Cai, allan yn swyddogol ddydd Gwener nesaf, 11 Rhagfyr ond mae cyfle i chi glywed y trac gyntaf, cyn unrhyw le arall heddiw.

Daw’r cerddor ifanc o Benygroes, a’r ddau drac newydd arall ganddo ydy ‘No! Spiders’ a ‘Gyd yn Iawn’.

Mae’r fideo isod wedi’i  greu  gan y cyfarwyddwr ffilm ifanc cyffrous, Hedydd Ioan o Trac 42. Mae Hedydd wedi denu tipyn o ddiddordeb ar ôl ennill gwobr arwyddoicaol yn ddiweddar am ei ffilm fer wych ‘Y Flwyddyn Goll’.

“Dwi’n cofio bach o flynyddoedd yn ôl o’n i’n cerddad adra o ysgol efo bach o fêts a ddudodd un – ‘Dysga bass i chdi chwara yn band ni’” meddai Cai am ei ysgogiad i ddechrau chwarae cerddoriaeth.

“Nes i ddarganfod wedyn mai jôc oedd o! Er hyn, blynyddoedd wedyn, ac ar ôl oriau o berfformio, cynhyrchu, ymarfer a ballu dwi yma’n rhyddhau tri trac!”

Dywed y cerddor ei fod yn dwyn dylanwad gan nifer fawr o artistiaid indie, pop, roc ac ychydig bach o hip hop, gan enwi Boy Pablo, K. Flay, Easy Life, Jamie T., Oliver Tree, Loyle Carner a nifer o artistiaid eraill ymysg y dylanwadau hyn.

Edrych mlaen i weld a chlywed lot mwy gan Cai, ond am y tro, mwynhewch fideo ‘Blaidd (Nol a Nol)’: