Rydan ni wrth ein bodd yn dadorchuddio talent newydd yna yn Selar towyrs, a dyma gyfle i gyflwyno cerddoriaeth artist hynod o gyffrous i chi – Y Dail.
Y Dail ydy prosiect y cerddor ifanc 17 oed o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd, Huw Griffiths.
Mae sengl gyntaf Y Dail allan ddydd Gwener yma, 30 Hydref, ac mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld fideo llawn y sengl newydd, ‘Y Tywysog a’r Teigr’.
Darllenwch ein darn diweddar am y grŵp newydd a’r sengl.
Ffilmiwyd y fideo gan ffrind ysgol i Huw, Curig Williams, Mharc Ynysangharad, Pontypridd.
Er mai dyma sengl gyntaf Y Dail, yn ôl Huw mae ganddo tua 30 o ganeuon wedi eu recordio fel demos, felly rydan ni’n edrych ymlaen at glywed llawer iawn mwy gan y prosiect.
Yn y cyfamser, mwynhewch fideo ‘Y Tywysog a’r Teigr’: