Rydan ni’n hoffi Eilir Pierce.
Wel, pwy sydd ddim yn hoffi Eilir Pierce i ddeud y gwir? Pwy allai beidio hoffi’r cymeriad hoffus yma sy’n creu cerddoriaeth wallgof a gwych ers degawdau bellach.
Wel, roedden ni yn Selar HQ wrth ein bodd i glywed am gynnyrch diweddaraf Eilir, sef yr EP Yuke Yl Lady, a ryddhawyd ddiwedd mis Gorffennaf.
A bu bron i ni ffrwydro o gyffro pan soniodd Eilir bod yr EP wedi esblygu bellach i fod yn albwm – albwm sydd allan yn swyddogol heddiw!
Fel y gallwch chi ddyfalu mae’n siŵr, mae LP yn cynnwys caneuon yr EP Yuke Yl Lady, ond hefyd caneuon ychwanegol! Ond mae un tro fach yn y gynffon, sef mai dim ond ar ffurf caset mae’r LP ar gael.
Nid yw rhyddhau cynnyrch ar gasét yn beth newydd i Eilir – rhyddhaodd ei albwm cyntaf ym 1995 ar y fformat hwnnw, fel yr eglura’r cerddor…
“Mi oedd recordio ar dâp yn rhywbeth hollol accessible i mi eglura Eilir.
“Cymrais y recordydd tâp a fy ngitâr i’r sied a chychwyn byrfyfyrio caneuon o flaen y defaid a’r ieir.”
“Ond roeddwn i’n ddigon pretentious i’w alw yn ‘albwm cyntaf’ ar y clawr, a nes i neud copis ohono i werthu ar iard yr ysgol.”
O ran yr albwm diweddaraf, mae modd archebu’r caset ar safle Bandcamp Eilir rŵan.
Bydd mwy am yr LP mewn erthygl ar wahan, ond prif fwrdwn yr eitem yma ydy cyflwyno fideo newydd sbon mae Eilir wedi cynhyrchu i gyd-fynd â’r albwm.
Yn ogystal â bod yn gerddor uchel ei barch, mae Eilir hefyd yn wneuthurwr ffilm uchel ei barch, ac mae wedi creu fideo arbennig ar gyfer teitl drac yr albwm.
Ond nid fideo miwsic cyffredin ydy hwn fel yr eglura Eilir…
“Ma hwn yn found footage o 1988…stori gariad rhwng dau ukulele” meddai’r cerddor.
Mae Eilir yn pwysleisio na chafodd unrhyw ukelele ei anafu / hambygio wrth greu’r fideo.
Mwynhewch…