Weeel, dyma chi beth ydy trît bach a hanner i gynulleidfa lwcus Y Selar!
Rydan ni wrth ein bod i allu rhannu sesiwn byw newydd sbon danlli, wrth ynysu, y grŵp gwych Lewys gyda chi.
Mae’r grŵp wedi bod yn brysur yn recordio sesiynau byw o’u cartrefi er mwyn diddanu pawb sydd gan glo, a ‘Hel Sibrydion’ ydy’r trac cyntaf sy’n cael y driniaeth arbennig sy’n ymateb i’r amgylchiadau unigryw rydan ni’n byw ynddyn nhw ar hyn o bryd.
Mwy am sut aethon nhw o’i chwmpas hi isod, ond gyntaf dyma’r fideo:
Cynhyrchwyd y sesiwn gan y ffryntman, Lewys Meredydd ei hun, ar ei laptop a rhaid cydnabod fod y safon yn arbennig o dda tydi?
“Nathon nhw yrru pob trac i fi, a nes i gymysgu nhw ar Ableton Live 10 gan iwsho trac Rich Roberts fatha reference” meddai Lewys.
“Nath Geth wedyn ddefnyddio software golygu fideos i roi’r clips i gyd at ei gilydd ar ben y tras nes i greu. Digon hawdd neud o i gyd ar iMovie neu rwbath ar dy ffôn rili!”
“Neu, os di pobl isio neud fersiwn symlach, ma’n bosib lawr lwytho app ‘acapella’ a gwneud be mae lot o artistiaid Cymraeg wedi bod yn neud yn ystod y cwartantin ‘ma.”
Mae albwm cyntaf Lewys, Rhywbryd yn Rhywle, allan ers tua mis a gallwch archebu copi CD a chynnyrch arall y band ar-lein nawr.