Mae sawl artist wedi rhyddhau cynnyrch newydd yn ystod cyfnod y cloi mawr, ond mae’n siŵr mai’r albwm cyntaf i’w ryddhau ers i COVID-19 daro Cymru oedd Rhywbryd yn Rhywle gan Lewys.
Er i’r pandemig chwalu cynlluniau lansio’r grŵp, er tegwch iddynt maent wedi dyfalbarhau gyda’r gwaith hyrwyddo ac mae record hir gyntaf y grŵp ifanc cyffrous wedi dal y sylw.
Gallwch ddarllen darn arbennig yn trafod yr albwm gan Tegwen Bruce-Deans ar wefan Y Selar nawr, ond mae Y Selar hefyd yn falch iawn o’r cyfle i rannu fideo sesiwn byw arbennig o’r trac ‘Rhywle’ gyda chi hefyd. Mwynhewch…