Mae’r artist amryddawn a chanwr protest o Abertawe, Geraint Rhys, wedi creu fideo cerddorol arbennig sy’n dehongli darn o farddoniaeth gan fardd Rwsiaidd.
Y gerdd ‘Alphabet 1’ gan Dmitri Prigov ydy’r un dan sylw, ac mae’r dehongliad cerddorol ohoni gan Geraint yn rhan o ddigwyddiad i nodi marwolaeth y bardd enwog o Rwsia.
Gwahoddwyd Geraint i greu’r fideo ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan fudiad DNO Station / Станция Дно, a bydd yn cael ei ddangos yn oriel gelf Belaevo ym Moscow. Geraint ydy’r unig gyfrannwr i’r digwyddiad sydd ddim yn dod o Rwsia.
Yn y fideo mae’r cerddor wedi troi geiriau’r gerdd yn drac pync munud o hyd.
Mae’r Selar yn ffodus iawn i gael caniatad gan Geraint i rannu’r fideo arbennig gyda chi – joiwch!