Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi dechrau darlledu cyfres o raglenni ar-lein sy’n cynnwys llwyth o ddeunydd archif sydd ganddynt o’r bum mlynedd ddiwethaf.
Mae’r cynllun wedi bod yn fywiog iawn wrth gwrs ac wedi gallu cynnig llwyfan i artistiaid o Gymru mewn gwyliau di-rif, ynghyd â llu o gyfleoedd eraill.
Yn anffodus, mae eu gweithgarwch yn mynd i gael ei gyfyngu’n sylweddol eleni, yn enwedig o ran gwaith gyda gwyliau cerddoriaeth yr haf.
Er hynny, yn ffodus iawn mae Gorwelion wedi bod yn cofnodi lot fawr o’r hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ar ffilm – digon i allu creu cyfres o benodau’n bwrw golwg nôl ar rai o uchafbwyntiau’r cynllun dros y blynyddoedd.
Darlledwyd y bennod gyntaf ar dudalen Facebook Gorwelion nos Fercher diwethaf, ac mae modd gwylio nôl nawr.
Ymysg y cynnwys yn y bennod gyntaf mae cyfweliad byr gydag Alffa, ynghyd â’r gân ‘Gwenwyn’ o sesiwn Gorwelion yn Rockfield; sgwrs a chân gan Adwaith o Wyl Rhif 6 ym Mhortmeirion; a chân o sesiwn Chroma yn stiwdio enwog Maia Vale.
? Director Jamie Panton delves into the 5 years of Horizons, selecting some personal favourites.Ymunwch a thîm Gorwelion I fynd trwy'r Archif, rhaglen gyntaf wythnos honEpisode 1 features: Adwaith / Alffa / CaStLeS / Casey / CHROMA / Climbing Trees / Danielle Lewis / Fleur de Lys / Monico Blonde / Reuel Elijah / Roughion / TibetBBC Cymru Wales | Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales
Posted by Horizons / Gorwelion on Wednesday, 20 May 2020