Wrth i’r cyfnod o ynysu barhau o ganlyniad i’r Coronavirus, mae’r llawer o bobl wedi bod yn chwilio am ffyrdd gwahanol i ddiddori eu hunain.
Mae’n ymddangos fod y grŵp Papur Wal wedi bod yn brysur yn gwrando ar gerddoriaeth Gorky’s Zygotic Mynci yn ystod y cyfnod yma…gymaint felly nes cael eu hysbrydoli i fynd ati i recordio eu fersiwn eu hunain o un o ganeuon y grŵp gwych o’r Gorllewin.
‘Spanish Dance Troupe’ ydy’r trac sydd wedi cael triniaeth arbennig gan Papur Wal. Ymddangosodd y gân yn wreiddiol ar yr albwm o’r un enw a ryddhawyd gan y Gorky’s ym 1999 – chweched albwm y grŵp hynod gynhyrchiol o Sir Gâr.
“Ar ôl treulio pythefnos o’r lockdown yn gwrando ar Gorky’s, penderfynom ni i neud cover o’r gân hon oddi ar yr albwm o’r un enw” meddai’r band.
“Da ni’n gobeithio fod ’na ddigon o fans Gorky’s fel ni allan na ac isho wbath fel hyn yn ystod y cyfnod weird ma.”
“Hoffwn ymestyn ein diolchiadau i holl aelodau Gorky’s am fod yn fand mor anhygoel o ysbrydoledig a dylanwadol.”
Cynhyrchwyd a Recordiwyd y trac gan Papur Wal yn ‘The Laurels’, Caerdydd.
Mae’r trac wedi’i fastro gan y cynhyrchydd Kris Jenkins, ac mae yntau hefyd wedi cyfrannu i’r recordiad ar y dryms ac offerynnau taro.