Mae cerddoriaeth cyntaf cerddor ifanc o Benygroes wedi’i ryddhau’n swyddogol ers dydd Gwener diwethaf 11 Rhagfyr.
Cai ydy enw’r cerddor dan sylw, ac fe ryddhawyd tri o’i draciau ar y llwyfannau digidol arferol ddydd Gwener.
Roedd cyfle cyntaf i glywed, a gweld fideo, un o’r traciau, sef ‘Blaidd (Nol a Nol) ar wefan Y Selar y dydd Gwener blaenorol, 4 Rhagfyr.
Roedd y fideo wedi’i greu gan y cyfarwyddwr ffilm hynod o addawol, Hedydd Ioan o Trac 42 – denodd Hedydd gryn dipyn o sylw’n ddiweddar ar ôl ennill gwobr arwyddocaol ‘Cinemagic 2020 Young Filmmaker’ yn Belfast am ei ffilm fer ‘Y Flwyddyn Goll’.
Tri Trac
Mae Cai wedi rhyddhau tri trac newydd i gyd ar y llwyfannau digidol arferol sef ‘Blaidd (Nol a Nol)’, ‘No! Spiders’ a ‘Gyd yn Iawn’.
Dywed y cerddor ifanc fod ei daith gerddorol wedi dechrau rai blynyddoedd yn ôl, yn rhannol diolch i dynnu coes rhwng ffrindiau.
“Dwi’n cofio bach o flynyddoedd yn ôl o’n i’n cerddad adra o ysgol efo bach o fêts a ddudodd un – ‘Dysga bass i chdi chwara yn band ni’” eglurodd Cai.
“Nes i ddarganfod wedyn mai jôc oedd o! Er hyn, blynyddoedd wedyn, ac ar ôl oriau o berfformio, cynhyrchu, ymarfer a ballu dwi yma’n rhyddhau tri trac!”
Dywed y cerddor ei fod yn dwyn dylanwad gan nifer fawr o artistiaid indie, pop, roc ac ychydig bach o hip hop, gan enwi Boy Pablo, K. Flay, Easy Life, Jamie T., Oliver Tree, Loyle Carner a nifer o artistiaid eraill ymysg y dylanwadau hyn.
Ma hon yn dipyn o diwn – dyma fideo ‘Blaidd (nol a nol)’: