Mae Meilir wedi cadarnhau y bydd yn rhyddhau eu albwm ar 4 Rhagfyr.
‘In Tune’ fydd enw albwm unigol cyntaf cyn aelod y grŵp Manchuko, ac er mai’r bwriad gwreiddiol oedd rhyddhau’r record yn y flwyddyn newydd, bellach mae wedi gosod dyddiad rhyddhau ddechrau mis Rhagfyr.
Rhyddhaodd y sengl ‘Ydy’r Ffordd yn Glir’ fel tamaid i aros pryd ar ei safle Bandcamp ddiwedd mis Medi.
Mae’r albwm yn dilyn yr EPs llwyddiannus ‘Bydd Wych’ (2009) a ‘Cellar Songs’ (2014), a bydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol i ddechrau ar y llwyfannau arferol gan Label Recordiau Gwdihw, ond hefyd ar ffurf galed yn y flwyddyn newydd.
Cynhyrchwyd yr albwm gan Charlie Francis yn ei Stiwdio Loft yng Nghaerdydd, ac yn ôl y label mae’n daith gerddorol gyffrous i’r gwrandäwr. Mae galw i chwarae ‘In Tune’ sawl gwaith er mwyn gallu gwir ymdreiddio a gallu mynd o dan groen cyfansoddiadau difyr Meilir.
Trac sain bywyd
“Mae fy recordiadau yn bersonol iawn i mi, a dwi’n meddwl mai dyna pam maen nhw’n cymryd cyn hired i mi eu gorffen” meddai Meilir.
“Mae yna themâu ar yr albwm ‘In Tune’ sy’n dilyn rhai o fy recordiadau blaenorol: mewn ffordd, mae’r gerddoriaeth dwi’n ei ysgrifennu fel soundtrack i fy mywyd
“Mae rhai demos a’r syniadau tua wyth mlwydd oed: mae wedi bod yn dda i gymryd ychydig yn hirach i ysgrifennu a recordio. Drwy gymryd mwy o amser i recordio nag rydw i wedi yn y gorffennol, mae yna fwy o ddyfnder a phersonoliaeth i’r gerddoriaeth.
“Fydd yn braf cael rhannu’r caneuon yma gyda’r byd o’r diwedd” ychwanega’r cerddor.
O’r clasurol i’r arbrofol
Ag yntau’n llwyddo i gyfuno cyfansoddi medrus gyda dull ysgrifennu dewr a synnwyr cerddorol eclectig, mae hanes taith gerddorol Meilir yn un digon ddiddorol.
Wedi ei eni a’i fagu yn Sir Fflint, cafodd lwyddiant yn wreiddiol fel pianydd a cherddor clasurol. Er y llwyddiant hwn, aeth Meilir i deimlo’n rhwystredig gyda chyfyngiadau artistig y byd clasurol, gan ddyheu am le i greu rhywbeth unigryw i’w hun.
Sefydlodd y grŵp Manchuko yn wreiddiol gyda chriw o gerddorion eraill o’r Gogledd Ddwyrain, ond parhaodd i deimlo’n greadigol rwystredig. Yna yn 2009 dechreuodd greu cerddoriaeth ei hun, gan greu synau arloesol gyda chyfuniad unigryw o biano, gitâr trydan ac amryw synthesizers. Cyfunodd hyn gydag offerynnau mwy annisgwyl fel piano bawd, teipiadur hynafol, a hyd yn oed hambwrdd wedi’i lenwi â gro.
Canlyniad hyn oedd cyfres o senglau a’r EPs llwyddiannus.
Mae Meilir hefyd yn cael ei ganmol am ei berfformiadau byw agos-atoch-chi a llawn dychymyg. Mae wedi cael cyfle i gefnogi The Joy Formidable ar daith Ewropeaidd, yn ogystal ag artistiaid eraill amlwg fel Cate Le Bon, Tiny Ruins, Faust a Michael Rother (NEU!)
Bydd albwm ‘In Tune’ allan yn ddigidol ar 4 Rhagfyr, gyda fersiwn CD a feinyl i ddilyn ym mis Mawrth 2021.