Ar ôl cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu sengl ddiweddaraf wythnos diwethaf, mae HMS Morris bellach wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau EP newydd cyn diwedd y flwyddyn hefyd.
Bydd eu sengl newydd, ‘Partypooper’ yn cael ei rhyddhau ar ddydd Gwener 6 Tachwedd, a bydd yr EP, ‘Pastille’ yn dilyn ar 4 Rhagfyr.
Bydd yr EP yn cael ei ryddhau ar label Bubblewrap, sy’n golygu bydd nifer cyfyngedig o gopiau feinyl o’r record.
Bydd rhain ar gael ar ffurf feinyl deuddeg modfedd lliw glas, a dim ond 100 o gopïau ohonynt.