Cyhoeddi Dyddiad Tregaroc 2020

Mae Gŵyl gerddoriaeth flynyddol Tregaron yng Ngheredigion wedi cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y digwyddiad eleni.

Mae’n flwyddyn bwysig i dref leiaf Ceredigion, wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ym mis Awst, ond cyn hynny bydd cyfle i fwynhau’r ŵyl sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers saith blynedd bellach.

Dydd Sadwrn 16 Mai ydy’r dyddiad y tro hwn, a bydd tocynnau, sy’n gwerthu i gyd o fewn dim amser fel arfer, yn mynd ar werth ar 28 Mawrth.

Cadwch olwg ar ddigwyddiad Facebook Tregaroc am fwy o newyddion.