Cyhoeddi enwau perfformwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi manylion cyntaf ynglŷn â’r digwyddiad eleni, gan gynnwys enwau nifer o’r prif artistiaid fydd yn perfformio.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd ydy gŵyl gerddorol fwyaf Cymru, ac fe’i cynhelir yn flynyddol yn y Bannau Brycheiniog ddiwedd mis Awst. Dyma’r deunawfed blwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.

Mae tocynnau ‘cyntaf i’r felin’ yr ŵyl eisoes wedi eu gwerthu i gyd yn yr amser cyflyma’ erioed, ond bellach mae’r tocynnau cyffredinol ar werth hefyd.

Er mai’r penwythnos canlynol mae’r prif ddigwyddiad, mae modd treulio wythnos yn yr ŵyl gyda thocyn ‘sefydlwyr’ sy’n caniatáu mynediad i’r maes ac i nifer o weithgareddau o 17 Awst ymlaen.

Enwau cyfarwydd

Ymysg yr enwau sydd wedi eu cyhoeddi i berfformio mae cwpl fydd o ddiddordeb arbennig i bobl sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn benodol. Wedi cyfnod prysur yn hyrwyddo ei albwm unigol diweddaraf, ac albwm cyfan gwbl Gymraeg, bydd Gruff Rhys ymysg y rhai sy’n perfformio ym mis Awst.

Hefyd ymysg yr enwau cyntaf i’w cyhoeddi mae’r grŵp dwy-ieithog sydd wedi creu tipyn o gynnwrf gyda’u perfformiadau byw cyffrous ers ymddangos gyntaf fis Mai llynedd, Melin Melyn. Bydd y grŵp gwych o Gaerdydd, Boy Azooga, hefyd ar lwyfan yr ŵyl eleni.

Rhai o’r prif enwau eraill i’w cyhoeddi ydy Michael Kiwankua; y cerddor electroneg amlwg Caribou; y cerddor slacyr / indie-roc, Mac DeMarco; a’r ddeuawd electroneg hynod llwyddiannus, Goldfrapp.

Mae nifer o berfformwyr eraill wedi’u cyhoeddi hefyd, dyma’r rhestr yn llawn:

Michael Kiwanuka, Caribou, Mac DeMarco, Little Dragon, Goldfrapp, Thundercat, Agnes Obel, Parquet Courts, Ty Segall & Freedom Band, Lucinda Williams, Black Midi, Shame, Lump, Gruff Rhys, This is the Kit, (Sandy) Alex G, Kokoroko, Nadine Shah, Moon Duo, Giant Swan, Sudan Archives, Richard Dawson, Lankum | V**gra Boys ,The Murder Capital, Torres,  Caroline Polachek, Matt Maltese, Otoboke Beaver, Boy Azooga, Charlotte Adigery, Vanishing Twin, The Orielles, Tropical F Storm. Steam Down, Sarathy Korwal, Emma-Jean Thackray, RVG, Corridor, Working Mens Club, Liz Lawrence, Bambara, Porridge Radio,  John, Nap Eyes, Fenne Lily, Alabaster Duplume, Deep Throat Choir, Katy J Pearson, Aoife Nessa Frances, Honey Harper, Sinead O’Brien, Caroline, Do Nothing, Egyptian Blue, The Goa Express, Lazarus Kane, Lazy Day, Melin Melyn, Prima Queen, Rina Mushonga, Ruthie, Studio Electrophonique.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn digwydd rhwng dydd Iau 20 Awst a dydd Sul 23 Awst. Prisiau tocynnau penwythnos fel a ganlyn: 

Oedolion – £195

Myfyrwyr – £170

Arddegau (13 – 17) – £130

Plant (5 – 12 oed) – £30

Plant Bach (0-4) – Am Ddim