Cyhoeddi fideo ‘Piper Malibu’

Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Papur Wal wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube cyfres gerddoriaeth Lŵp ar S4C.

‘Piper Malibu’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd a ryddhawyd  ar y llwyfannau digidol arferol ddydd Gwener diwethaf, 13 Mawrth.

Dyma’r ail sengl o’u halbwm cyntaf sydd ar y gweill, ac fel eu sengl boblogaidd ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ a ryddhawyd llynedd, mae’r grŵp yn dwyn dylanwad o fyd chwaraeon ar gyfer eu sengl newydd, ac o un stori drist benodol.

“‘Piper Malibu yw enw’r awyren y bu farw’r pêl droediwr Emiliano Sala ynddo” eglura gitarydd a phrif ganwr Papur Wal, Ianto Gruffydd.

“Cafodd y gân ei hysgrifennu’n wreiddiol am ddatblygu ofn o fflio mewn awyren a phethau eraill wrth i ti dyfu’n hŷn. Yn dilyn y newyddion am Sala, gorffennais y gân gan ychwanegu’r cysyniad o’r math o gymdeithas adolygiadol rydym yn byw ynddo, lle tydy pobl ond yn talu sylw i ti ar ôl i ti farw, neu os wyt ti’n enwog ayyb.”

Hefyd yn dilyn ôl traed ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’, mae’r grŵp wedi troi at y cyfarwyddwr Billy Baglihole ar gyfer creu eu fideo newydd sydd i’w weld ar sianel YouTube Lŵp nawr.