Cyhoeddi lein-yp Gig y Pafiliwn

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lein-yp Gig y Pafiliwn eleni.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst, ac am y bumed flwyddyn yn olynol bydd Gig y Pafiliwn yn cael ei lwyfannu gan gyfuno talentau bandiau cyfoes gyda cherddorfa’r Welsh Pops Orchestra.

Cynhaliwyd Gig y Pafiliwn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Y Fenni yn 2016 gyda Candelas, Yr Ods a Sŵnami yn perfformio. Ers hynny mae artistiaid y gig wedi cynnwys Yws Gwynedd, Alys Williams, Geraint Jarman, Band Pres Llareggub, Eden a HMS Morris.

Bydd y gig yn digwydd ar nos Iau 6 Awst eleni ac mae’r gig yn dathlu pedwar o fandiau ifanc cyffrous y sin ar hyn o bryd.

Y pedwar band sy’n perfformio ydy Gwilym, Mellt, Adwaith ac Alffa, a bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Huw Stephens yn ôl yr arfer.

Bydd tocynnau’r gig yn mynd ar werth ar 1 Ebrill, manylion ar wefan yr Eisteddfod.

Llun: Gwilym, fydd yn perfformio yn Gig y Pafiliwn eleni (llun:Y Selar)