Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion lein-yp y ddwy noson sy’n cael eu cynnal i ddathlu Gwobrau’r Selar eleni.
Bydd Gwobrau’r Selar yn digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Wener 14 Chwefror, a nos Sadwrn 15 Chwefror gyda 5 o fandiau prysura a mwyaf poblogaidd y flwyddyn ddiwethaf yn perfformio ar y naill noson a’r llall.
Gig nos Wener
Bydd gig nos Wener yn cynnwys y grŵp enillodd bum gwobr yng Ngwobrau’r Selar llynedd, ac sydd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, Gwilym.
Grŵp arall hynod boblogaidd, a ryddhaodd eu halbwm cyntaf ddiwedd 2019, fydd hefyd yn perfformio ydy Fleur de Lys.
Band arall sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd ers cipio gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd ydy Lewys, ac yn ymuno â hwythau ar y nos Wener bydd Elis Derby a’r grŵp ifanc cyffrous, Dienw.
Nos Sadwrn
Un o’r grwpiau sydd wir wedi sefydlu eu hunain yn 2019, gan ryddhau eu halbwm cyntaf, ydy Los Blancos, a nhw ydy’r prif enw ar gyfer nos Sadwrn Gwobrau’r Selar.
Mae’r grŵp hip-hop gwallgof o Gaernarfon, 3 Hwr Doeth, hefyd wedi rhyddhau albwm ar ddiwedd y flwyddyn a bydd eu sioe fyw chwedlonol yn siŵr o gyfrannu at noson gofiadwy ar y nos Sadwrn.
Yr artistiaid sy’n cwblhau lein-yp ail noson y Gwobrau ydy Papur Wal, y gantores bop electroneg wych Eädyth, a’r grŵp newydd hynod gyffrous, Kim Hon.
Cyhoeddwyd hefyd mai’r DJ a chyflwynydd Elan Evans fydd yn cyflwyno Gwobrau’r Selar am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Poblogaidd ac amrywiol
“Mae gyda ni lein-yp gwych ar gyfer Gwobrau’r Selar eto eleni” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Rydan ni bob amser yn ceisio cael balans rhwng adlewyrchu enwebiadau a phleidlais y cyhoedd ar un llaw, ond hefyd roi llwyfan i ambell artist arall sydd efallai’n llai amlwg, ond wedi gwneud gwaith da yn y flwyddyn a fu yn ein tyb ni.”
“Nid bod yn cŵl neu drio creu argraff ar unrhyw un ydy bwriad Gwobrau’r Selar, ond yn hytrach dangos pa artistiaid sy’n boblogaidd gyda phobl ifanc Cymru ar y pryd, ac mae’r lein-yp yn efelychu hynny, gan hefyd ymgeisio i ddangos peth o’r amrywiaeth wych sydd gyda ni o ran cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd.”
Caeodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar ar nos Calan, ac mae’r rhestrau byr yn cael eu datgelu’n wythnosol nes penwythnos y gwobrau. Mae tocynnau penwythnos ar werth ers mis Rhagfyr, ac erbyn hyn mae modd prynu tocynnau unigol ar gyfer y nosweithiau hefyd ar wefan Y Selar.