Cyhoeddi manylion albwm Mr Phormula

Bydd rhai ohonoch yn cofio awgrym gwpl o wythnosau nôl fod albwm newydd ar y ffordd gan Mr Phormula, a’i fod yn chwilio am gyfraniad  lleisiol gan y cyhoeddi ar gyfer un o’r traciau.

Wel, bellach mae’n rapiwr a bitbocsiwr gwych wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei albwm newydd ar 20 Tachwedd.

Tiwns fydd enw albwm diweddaraf prosiect cerddorol Ed Holden, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Ed ei hun, sef Mr Phormula Records.

Mae Mr Phormula yn enw cyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth yng Nghymru ac wedi bod yn un o artistiaid hip hop amlycaf y wlad ers dau ddegawd bellach.

Yn wir, gellir dadlau ei fod wedi cario baich rapio Cymraeg ar ei ysgwyddau am amser sylweddol o’r cyfnod hwnnw!

Arloesi

Yn ôl y cerddor, ‘Tiwns’ ydy ei albwm mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn ac mae’n dilyn ei EP, ‘Stranger’, a ryddhawyd ym mis Ionawr 2019 ac a gafodd ymateb arbennig o dda.

Mae ‘Tiwns’ yn trafod sawl thema amserol gan ddefnyddio llinellau bas trwm, synths uchel a rhythmau arbennig.

Mae’r albwm yn arddangos deheurwydd geiriol a chynhyrchu tynn arferol Mr Phormula, ac yn gyfuniad arbennig o’i linellau bas pwerus a rapio ardderchog arferol. Mae’r albwm unwaith eto’n gweld Ed Holden yn arloesi gyda hip hop Cymreig.

Rydym wedi gweld Mr Phormula yn cyd-weithio gydag artistiaid eraill, ac ar yr albwm newydd mae ymddangosiad gan un enw cyfarwydd iawn i ni sef gan Lleuwen Steffan. Ceir ymddangosiadau hefyd gan Luke RV a Craze the Jack.

Bydd ‘Tiwns’ allan ar y llwyfannau digidol arferol ar 20 Tachwedd.

Dyma ‘Cwestiynau’ o’i albwm llawn diwethaf, Llais a ryddhawyd yn 2017: