Yn dilyn y newyddion am sengl ddwbl gyntaf o’r casgliad wythnos diwethaf, mae label Ankstmusik wedi cadarnhau manylion rhyddhau albwm newydd y grŵp chwedlonol, Datblygu.
Bydd fersiwn feinyl nifer cyfyngedig o’r record hir newydd ar gael mewn siopau annibynnol ar 28 Awst, cyn i’r caneuon ymddangos yn ddiweddarach ar y llwyfannau digidol ar 11 Medi. Bydd y record feinyl 12” yn cynnwys deunydd bonws hefyd.
Datblygu wrth gwrs ydy prosiect David R. Edwards a Pat Morgan, ac mae’r casgliad newydd yn dilyn ymddangosiad eu cynnyrch blaenorol diweddaraf, ‘Porwr Trallod’, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig nôl yn 2015.
Recordiwyd ‘Cwm Gwagle’ dros benwythnos yng Nghaerdydd jyst cyn y cloi mawr, dan ofal y cynhyrchydd Frank Naughton.
Mae’n ymddangos fod yr albwm yn wahoddiad i fentro i mewn i fyd arbennig iawn.
Mae’r caneuon yn gweithio fel arwyddbyst ar ein taith trwy ddyffryn sydd ymhell o fod yn un gwyrdd a dymunol. Mae rhai o’r straeon yn ddoniol, mewn modd tywyll, rhai fel ‘Cariad Ceredigion’ yn atgofion personol, ac eraill fel ‘Ffon Bagal Dyffryn Cwnin’ yn fabula pur.
Yn ôl Ankstmusik, mae geiriau caneuon David wedi symleiddio dros y blynyddoedd ac yn cloddio’n llawer dyfnach i fyd delweddaeth farddonol bur, gan greu gweledigaeth, synau a rhythmau sy’n taro’n galed ac felly hefyd y gerddoriaeth gan Patricia Morgan. Does dim gwastraff, dim dargyfeiriadau, dim ond strwythur, awyrgylch, teimladau a chefnogaeth wedi’u plethu’n telepathic i’r gerddoriaeth.
Bydd sengl ddwbl gyntaf yr albwm newydd, ‘Cymryd y Cyfan / Y Purdeb Noeth allan yn ddigidol ar 7 Awst fel tamaid i aros pryd nes rhyddhau’r albwm ar 29 Awst.