Cyhoeddi Manylion Gŵyl Newydd 2020

Mae gŵyl Gymraeg flynyddol Casnewydd, Gŵyl Newydd, wedi cyhoeddi manylion eu digwyddiad digidol fydd yn cael ei gynnal eleni.

Bydd Gŵyl Newydd 2020 yn cael ei chynnal fel gwe-ddarllediad ar wefan AM ar 26 Medi, gydag amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau yn cael eu cynnal.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y trefnwyr, sef Menter Iaith Casnewydd, raglen y digwyddiad rhithiol, gydag addewid o “wledd o weithgareddau unigryw a chyffrous”.

Mae cerddoriaeth yn rhan amlwg o’r rhaglen a bydd Mellt a Fflur Dafydd yn perfformio fel rhan o’r ŵyl.

Bydd criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn hefyd yn cynnal sesiwn gyda rhai o labeli recordiau amlycaf Cymry – Recordiau Libertinio, JigCal, Côsh a Recordiau Sain.